Welsh Brothers Foods Ltd

Alan Heycock yw cyfarwyddwr Welsh Bros Foods Ltd, cwmni llwyddiannus sy’n tyfu ac sydd wedi bod yn cyflenwi bwydydd i westai, bwytai a marchnadoedd arlwyo eraill, yn bennaf yng Nghymru, ers 40 mlynedd a mwy.

Mae gan y cwmni drosiant gwerth £10 miliwn, ac mae’n cyflogi 60 o bobl ar ddau safle yng Nghasnewydd, ac ymhlith ei gwsmeriaid ar hyn o bryd mae ganddo wyth awdurdod lleol yng Nghymru, gan ddarparu bwydydd i’w ffreuturau a’u hysgolion.

Mae Mr Heycock yn gwybod i’r dim pa mor bwysig yw marchnad y sector cyhoeddus i’w fusnes, a dyna pam y mae’n manteisio’n llawn ar Gerdyn Prynu Cymru.

"Rydym wedi sefydlu enw da gydag awdurdodau lleol ac rydym yn falch o weithio’n agos gyda nhw er mwyn hwyluso unrhyw welliant i’r broses brynu, sydd o fantais i’r ddwy ochr " meddai.

"Roeddem yn gwybod am Gerdyn Prynu Cymru, ond daeth ei bwysigrwydd yn amlycach pan oeddem yn cynnig am gontract newydd gyda Chyngor Sir Penfro ynllynedd. Penderfynodd yr awdurdod fod rhaid i bob un o’i gyflenwyr ddefnyddio’r Cerdyn.

"Yn ein profiad ni, unwaith y bydd un cyngor yn mabwysiadu safbwynt felly, mae eraill yn debygol o ddilyn. Gan ein bod wedi dechrau defnyddio’r Cerdyn, rydym ni fel cwmni yn dechrau gweld y manteision hefyd.

"Yn eu plith mae diogelwch a thryloywder, llai o weinyddu a gwell llif arian. Mae datganiadau’r Cerdyn yn debyg i anfonebau bach, ac mae’n hawdd eu cymharu â chofnodion cyflenwi etc. Mae wedi gweithio’n dda ac wedi arbed arian i ni."

Mae Welsh Bros Foods Ltd wedi integreiddio’r modd y maent yn manteisio ar y Cerdyn â meddalwedd archebu bwrpasol a luniwyd ar eu cyfer gan Diamond Discovery Ltd ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae hyn wedi haneru’r amser y mae’r sifft nos yn ei dreulio ar weinyddu, ymhlith manteision eraill.

www.welshmeatdirect.net

www.diamond-discovery.com

Llywodraeth Cynulliad Cymru