Cwestiynau Cyffredin ynghylch eFasnachu i Ysgolion
Beth yw eFasnachu i Ysgolion? System eGaffael yn benodol i ysgolion yw eFasnachu i Ysgolion. Mae’n galluogi ysgolion i ddod o hyd i nwyddau a gwasanaethau ar-lein a’u harchebu, a masnachu â chyflenwyr yn electronig.
Pam cynnal cyfnod prawf ar gyfer eFasnachu i Ysgolion? Mae’r cyfnod prawf eleni yn parhau i brofi cadernid y system ac mae’n gwerthuso’r broses o’i rhoi ar waith. Ar yr un pryd, byddwn yn gweithio tuag at gynyddu nifer y cyflenwyr sydd wedi’u cofrestru ar y system er mwyn rhoi dewis i’r ysgolion a sicrhau gwerth am arian iddynt.
Beth fydd hyd y cyfnod prawf? Dechreuodd y cyfnod prawf ym mis Medi 2008 a bydd yn para tan ddiwedd tymor yr haf 2009.
Pwy sy’n cymryd rhan yn y cyfnod prawf? Mae tri Awdurdod Lleol yn cymryd rhan yn y cyfnod prawf ar hyn o bryd: Abertawe, Gwynedd a Bro Morgannwg.
A fydd fy ysgol yn wynebu unrhyw gostau? Na fydd. Nid oes rhaid i ysgolion dalu i roi’r system eFasnachu i Ysgolion ar waith.
A fydd angen caledwedd newydd ar fy ysgol? Na fydd. Dim ond SIMS a chysylltiad â’r rhyngrwyd fydd eu hangen i gymryd rhan yn y cyfnod prawf.
Nid yw fy ysgol yn defnyddio SIMS – ydw i’n dal yn gallu cymryd rhan? Bydd eich Awdurdod Lleol yn cysylltu â chi ynglŷn â hyn. Bydd y cyfnod prawf hwn dim ond ar gyfer ysgolion sydd â SIMS. Fodd bynnag, efallai y bydd eich Awdurdod Lleol yn rhoi SIMS ac eFasnachu i Ysgolion ar waith ar yr un pryd.
A yw fy ysgol yn gallu parhau i ddefnyddio SIMS? Ydy. Mae eFasnachu i Ysgolion yn cyd-fynd â SIMS. Mae hynny’n golygu eich bod yn gallu parhau i ddefnyddio’ch llif gwaith cyfredol – at ddibenion awdurdodi er enghraifft – wrth ddefnyddio’r system.
A fydd ysgolion yn cael hyfforddiant a chymorth? Byddant. Bydd yr holl staff a fydd yn defnyddio eFasnachu i Ysgolion yn cael hyfforddiant ar ddefnyddio’r system fel rhan o’r broses o’i rhoi ar waith. Bydd modd gwneud hyn mewn un sesiwn brynhawn. Darperir canllawiau hyfforddi hefyd. Eich timau TG a SIMS fydd eich man cyswllt cyntaf ar gyfer cymorth o ddydd i ddydd.
A fydd modd i mi barhau i ddefnyddio fy nghyflenwyr cyfredol? Bydd. Byddwn yn cysylltu â’ch cyflenwyr cyfredol ac yn eu gwahodd i gofrestru. Bydd cyflenwyr lleol, rhanbarthol a chenedlaethol sy’n newydd ichi ar y system hefyd, yn ogystal â chontractau fframwaith.
