Gyngor Gwledig Llanelli

Cerdyn Prynu Cymru yn dod â gwerth ac effeithlonrwydd i Gyngor Gwledig Llanelli

web image 1

Mae Cerdyn Prynu Cymru (WPC) yn cynnig ffordd rad o archebu a thalu am eitemau o werth isel lle nad oes risg sylweddol ynghlwm wrthynt. Mae ar gael drwy raglen cyfnewidcymru Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac fe’i darperir gan y Royal Bank of Scotland, a hynny heb unrhyw gost i’r sefydliad sy’n ei ddefnyddio. Mae’r cerdyn wedi bod o fantais fawr i Gyngor Gwledig Llanelli. Gwelir hyn yn yr amser a arbedir wrth helpu ceiswyr gwaith i fagu sgiliau newydd a fydd o gymorth iddynt ailddechrau gweithio.

Cafodd Cyngor Gwledig Llanelli (CGLl) ei ffurfio yn Ebrill 1974 ac mae’n un o’r naw cyngor cymuned yn ardal dosbarth Llanelli. Mae hyfforddiant galwedigaethol yn un o’r gwasanaethau allweddol y mae’r Cyngor yn eu cynnig i’r gymuned leol, trwy ei adran, Hyfforddiant CGLl. Mae gan Hyfforddiant CGLl statws Darparwr Hyfforddiant Cymeradwy ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’n cynnig mynediad at hyfforddiant i geiswyr gwaith lleol sydd yn cael eu cyfeirio atynt gan y Ganolfan Waith.

Wedi iddynt gael eu cyfeirio, dim ond 13 wythnos sydd gan geiswyr gwaith i ymgeisio am, a derbyn, hyfforddiant a chymwysterau a fydd o gymorth iddynt gael hyd i waith. Mae Hyfforddiant CGLl yn gyfrifol am gofrestru dysgwyr ar gyrsiau yn ogystal â sicrhau dyddiad ar gyfer profion asesu. Mae defnyddio Cerdyn Prynu Cymru i wneud y trefniadau hyn wedi lleihau’n sylweddol yr amser rhwng canfod cwrs a sicrhau lle arno. Mae hyn yn golygu bod y ceiswyr gwaith yn mynychu’r cwrs cyn gynted ag sy’n bosibl, gan wneud y gorau o’r amser sydd ganddynt ar gyfer hyfforddiant.

Dywedodd Dirprwy Glerc (Gweinyddiad) y Cyngor, Mrs Wendy Evans "Mae defnyddio cerdyn Prynu Cymru wedi hwyluso’n sylweddol y broses o gofrestru dysgwyr ar gyrsiau, yn cynnwys profion gyrru cerbydau nwyddau mawr (LGV), profion theori gyrru a phrofion iechyd a diogelwch."

Y cyfan mae defnyddwyr y Cerdyn yn y Cyngor yn gorfod ei wneud yw mynd i wefan y darparwr hyfforddiant perthnasol er mwyn cofrestru’r dysgwyr ar gyfer y dyddiadau sydd yn fwyaf addas iddynt. Mae’r Cyngor yn medru cwblhau’r broses gofrestru mewn byr amser gan eu bod yn gallu talu’n syth gyda Cherdyn Prynu Cymru.

Mae chwe aelod o staff y Cyngor wedi eu hawdurdodi i ddefnyddio’r Cerdyn. Rheolir y defnydd o’r Cerdyn trwy gyfrwng cyfyngiadau a bennir gan dîm rheoli’r Cyngor. Gan fod cyfyngiadau gwario wedi eu cytuno ymlaen llaw, mae deiliaid y cerdyn yn ei chael yn haws o lawer i gadw o fewn eu cyllideb - ac mae hynny o fantais i’r unigolyn ac i’r Cyngor. Mae’r holl fanylion am yr hyn a gaiff ei wario ar Gardiau’r Cyngor i’w gweld yn ddiogel gan unrhyw swyddog sydd ag awdurdod i wneud hynny drwy’r System Rheoli Cardiau Ar-lein, Smart Data, a ddarperir yn rhad ac am ddim gyda WPC.

Cyn mabwysiadu Cerdyn Prynu Cymru, treuliodd y Cyngor lawer o amser ar weinyddu - llenwi ffurflenni, anfon sieciau a disgwyl i daliadau glirio. "Dim ond wedi i’n sieciau glirio y gallem ni gofrestru a chadarnhau dyddiadau’r cyrsiau a’r profion asesu. Yn aml, bu rhaid i geiswyr gwaith dreulio hyd at bythefnos allan o’u 13 wythnos yn disgwyl i ni adael iddynt wybod pryd y byddai modd iddynt fynd ar eu cyrsiau a chymryd eu profion" esboniodd Mrs Evans.

Yn achos Cyngor Gwledig Llanelli, mae’r arbedion effeithlonrwydd o ran amser ac arian wedi eu helpu i ddarparu gwasanaeth gwell ar gyfer cwsmeriaid sy’n ceisio gwaith: "Mae cofrestru ar gyfer cyrsiau a phrofion gan ddefnyddio Cerdyn Prynu Cymru yn arbed rhwng 10 a 14 diwrnod i ni. Mae’r budd i ddysgwyr yn sylweddol iawn gan fod eu hanghenion yn cael sylw ar unwaith a gall llwyddo yn hynny o beth arwain at waith llawn amser yn y rhan fwyaf o achosion."

Llywodraeth Cynulliad Cymru