Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili – Arwain y ffordd o ran eGaffael yng Nghymru
5 Mehef 2009
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili – Arwain y ffordd o ran eGaffael yng Nghymru
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw’r 5ed awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru ac mae’n cyflogi tua 9,000 o bobl sy’n golygu mai dyma’r cyflogwr mwyaf yn yr ardal a’r 10fed mwyaf yng Nghymru.
Mae’r Cyngor yn cyflogi ystod eang o wasanaethau i’r 170,000 o bobl sy’n byw yn y fwrdeistref sirol, gan gynnwys addysg, gwasanaethau amgylcheddol, gwasanaethau cymdeithasol, cyllid, priffyrdd, gwasanaethau hamdden a gwarchod y defnyddiwr.
Yn ystod blynyddoedd diweddar mae’r Cyngor wedi bod yn herio’r modd y mae’n gwario ei arian gan ganolbwyntio ar feysydd fel caffael mwy am lai, adfywio a chynorthwyo’r gymuned leol (gan gynnwys SMEs a’r sector Gwirfoddol).
Fel rhan o drawsnewid eu caffaeliad, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw’r awdurdod lleol cyntaf i ymuno â’r gwasanaeth eGaffael a noddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, eFasnachu cyfnewidcymru.
"Bydd rhaglen cyfnewidcymru yn caniatáu i ni weithio gyda’n cyflenwyr i sicrhau ein bod yn masnachu yn y dull mwyaf effeithiol ac effeithlon – gan gydweithio i sicrhau’r budd mwyaf o ran llif gwaith" noda Cynllun Gwella 2005/08 Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Drwy fabwysiadu eGaffael bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili hefyd yn cefnogi ei Strategaeth Datblygu Cynaliadwy – nid oes padiau archebu papur bellach ar gael i’w defnyddio.
Ymwelodd Martin Sykes, Prif Weithredwr Gwerth Cymru ac Uwch Swyddog Cyfrifol cyfnewidcymru a thîm caffael Caerffili yn ddiweddar i ddysgu am eu profiad o weithredu’r system newydd hon. Roedd gan Martin ddiddordeb hefyd mewn gweld cyfnewidcymru yn gweithio mewn ‘amgylchedd byw’ a gwnaed argraff arno gan ymrwymiad a phroffesiynoldeb y tîm.
Mae wedi dod oddi yno gyda pharch enfawr tuag at ysbryd arloesol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili; "Dyw hi byth yn hawdd bod yn un o’r sefydliadau cyntaf i weithredu newid mor fawr i’w prosesau caffael, ond mae Liz Lucas a’i thîm o swyddogion caffael proffesiynol wedi wynebu’r her ac maent eisoes yn dechrau gweld y manteision – gan ennill gwobr ar y ffordd hyd yn oed."
Roedd Liz Lucas, Pennaeth Caffael Caerffili, yr un mor awyddus i rannu profiadau Caerffili; "Hyd yma rydym wedi gwario dros £410 mil drwy foth e-fasnach cyfnewidcymru ac wedi cael 1266 o archebion er i ni fynd yn fyw gyda chyfnewidcymru ym Mawrth 2009. Mae ein defnyddwyr yn hoffi’r cynnyrch yn fawr iawn ac rydym yn cael adborth ardderchog." Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ddiweddar hefyd wedi ennill Gwobr werthfawr Llywodraeth Leol Cymru i gydnabod eu defnydd o gaffael i helpu i drawsnewid eu corff, a ffurfiodd gweithredu cyfnewidcymru ran o’u cyflwyniad. "Gwnaed argraff ar y beirniaid gyda’r modd yr ydym yn symud ymlaen gydag eGaffael" ychwanegodd Liz.
