Darparwyr Gwasanaethau

Dosbarthir datrysiad cyfnewidcymru Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn fformat modwlar i sefydliadau sector cyhoeddus, a’u cyflenwyr, i ddewis yr offer electronig a’r gwasanaethau gwe sydd yn cwrdd â’u hanghenion penodol.

Mae pob elfen o’r gwasanaeth yn seiliedig ar dechnoleg safon diwydiant o un o’r sefydliadau canlynol.

Sequence

Sequence

Yn 2003 cafwyd Sequence ei gomisiynu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu ei strategaeth ar gyfer darpariaeth Caffael Genedlaethol. Mae Sequence yn arbenigo mewn trosglwyddiad cymwysiadau gwe gymhleth ac ymgynghoriadau strategol ar gyfer strategaethau gwe i’r sector cyhoeddus.

Mae Sequence yn defnyddio technolegau Microsoft o safon diwydiant i greu datrysiadau dibynadwy, diogel ar raddfa i’r sectorau cyhoeddus a preifat, sgiliau a ddefnyddiwyd yn effeithiol wrth greu elfennau allweddol gwreiddiol CyfnewidCymru - pyrth eGyfleoedd GwerthwchiGymru a PrynwchiGymru.

Hyd yn hyn mae gan y system dros 30,000 o gyflenwyr cofrestredig, cronfa defnyddwyr caffael dros 100 o sefydliadau yng Nghymru ac mae wedi cyflawni £10 biliwn gwerth o hysbysiadau ers ei lansiad yn 2004.

Gwefan Sequence

QinetiQ Commerce Decisions

QinetiQ Commerce Decisions

Mae Commerce Decisions yn gweithio mewn partneriaeth a BravoSolution, fel unig ddarparwr cymeradwy Gwasanaethau e-Gyrchu o dan Gytundeb Fframwaith OGC, i ddosbarthu elfennau allweddol datrysiad cyfnewidcymru; yn cynnwys: e-Werthuso, e-Awduro Dogfennau ac e-Adolygu.

Mae Commerce Decisions yn ddarparwr arweiniol dros feddalwedd a gwasanaethau i gefnogi’r prosesau caffael ac adolygiadau ar ôl y contract i brynwyr a chyflenwyr.

I brynwyr, mae offer e-Gaffael cyfnewidcymru yn helpu gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y broses gwerthuso er mwyn gallu gwneud y penderfyniad gorau cyn prynu yn seiliedig ar y meini prawf perthnasol.

Mae cyfnewidcymru - e-Gaffael yn seiliedig ar feddalwedd AWARD a chafwyd ei defnyddio gan ddiwydiannau amddiffyn, awyrofod a gwasanaethu, gofal iechyd a llywodraeth leol a canolog mewn amryw eang o gaffaeliadau o wahanol faint a chymhlethdod.

Am ragor o wybodaeth ar Commerce Decisions dilynwch y cysylltiad

Gwefan Commerce decisions

Bravo solution logo

BravoSolution

Dewisodd Llywodraeth Cynulliad Cymru BravoSolution, fel unig ddarparwr cymeradwy Gwasanaethau eGyrchu o dan Gytundeb Fframwaith OGC, i ddosbarthu elfennau allweddol datrysiad cyfnewidcymru; yn cynnwys e-Gyrchu, e-Werthuso, Rheolaeth Gwerthwyr, e-Rheoli Contractau ac e-Ddysgu.

Darparwr rhyngwladol arweiniol o Rhagoriaeth Rheolaeth Cyflenwi yw BravoSolution, a darperir drwy feddalwedd, gwasanaethau proffesiynol ac arbenigedd category, gyda’r bwriad i gynhyrchu gwerth drwy gefnogi eu cleientiaid i wella eu prosesau caffael.

Wedi ei sefydlu ym mis Mehefin 2000 gan ‘the Italcementi Group’, mae gan BravoSolution tîm o fwy na 400 mewn 20 gwlad. Defnyddir ei meddalwedd rheolaeth cyflenwi gan dros 12,000 o weithwyr caffael proffesiynol byd eang.

Am ragor o wybodaeth ar BravoSolution dilynwch y cysylltiad:

Gwefan BravoSolution

ProcServe

ProcServe

Mae ProcServe yn darparu marchnadoedd electronig diogel, hyblyg a chyflym a datrysiadau cysylltedd masnachu. Mae datrysiadau gwestio, a brand cwsmeriaeth ProcServe yn rhoi’r gallu unigryw i gwsmeriaid trosoli datrysiad meddalwedd fel gwasanaeth a chynnal eu marchnadfa a brand unigryw. Mae cwsmeriaid yn mwynhau datrysiad sefydlu cyflymach, costau cynnal a chadw llai, ac amgylchedd diogel.

cyfnewidcymru - e-fasnach a cyfnewidcymru - Mae e-Fasnach i Ysgolion yn seiliedig ar y Gwasanaeth Rheoledig Zanzibar, y system prynu electronig enillgar a darperir gan ProcServe ar ran OGCbuying.solutions.

Am ragor o wybodaeth ar ProcServe dilynwch y cysylltiad

Gwefan ProcServe

RBS

RBS

Am ragor o wybodaeth ar RBS dilynwch y cysylltiad www.rbs.co.uk

Gwefan RBS

Llywodraeth Cynulliad Cymru