Hygyrchedd
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymdrechu i sicrhau bod y wefan hon yn hygyrch ac yn hawdd i bawb ei defnyddio, waeth pa borwr rydych yn dewis ei ddefnyddio ac a oes gennych unrhyw anableddau ai peidio.
Mae cynllun y safle’n cymryd i ystyriaeth defnyddwyr sy’n ddall neu sydd â nam ar eu golwg, ac mae’n addas ar gyfer meddalwedd darllen sgrin boblogaidd. Os ydych yn cael trafferth defnyddio llygoden, gallwch lywio’r wefan drwy ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.
Mae hygyrchedd gwefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn seiliedig ar Ganllawiau ar Hygyrchedd Cynnwys y We 1.0 Consortiwm y We Fyd-eang (W3C). Mae Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio gydag awduron cynnwys y we, datblygwyr a sefydliadau pobl anabl i fodloni’r safon AA lle bynnag y bo modd.
Mae cynnal gwefan hygyrch yn broses barhaus ac rydym yn gweithio bob amser i gynnig profiad hwylus i’r defnyddiwr. Os nad oes modd bodloni’r safonau uchaf o ran hygyrchedd, nod Llywodraeth Cynulliad Cymru bydd i ddarparu’r wybodaeth mewn fformat gwahanol pan wneir cais.
Ychwanegwyd y gosodiadau canlynol i’r safle i ddarparu gwell hygyrchedd i bob defnyddiwr. Bydd y gosodiadau hyn yn cael ei gadw am yr ymweliad hwn yn unig. Cliciwch ar y botwm "Cofio’r Gosodiadau hyn" i gadw’r gosodiadau ar gyfer ymweliadau i ddod.
S - Neidio i’r cynnwys
0 - Hygyrchedd
1 - Hafan
3 - Map y safle
4 - Chwilio
5 - Cwestiynau Cyffredin
8 - Amodau a Thelerau
9 - Cysylltu â ni
