eFasnach

Manteision i Brynwyr:

- Arbedion (ariannol ac anariannol) trwy:
– brosesau mwy effeithlon
– ddefnydd cynyddol o gontractau corfforaethol
– well gwybodaeth rheoli;

  • Mynediad hawdd i ddefnyddwyr i gontractau cydweithredol - lleol, rhanbarthol, cenedlaethol - a chontractau corfforaethol;
  • Gwell welededd, ac felly gwell rheolaeth o wario, gan leihau prynu ‘maverick’
  • Gostyngiad yn y nifer o wallau ac anfonebau o’i le; a
  • Gwella’r gallu i gwrdd â thargedau talu prydlon drwy dalu anfonebau yn gyflymach.

Manteision i Gyflenwyr:

  • Cofrestriad unwaith yn unig yn rhoi mynediad i gwsmeriaid lluosog drwy un porth
  • Costau trafodion gostyngol drwy dderbynneb electronig o archebion a chyhoeddi anfonebau
  • Gallu i osod a chadw catalogau, gan sicrhau bod gwybodaeth a phrisio yn gyfoes bob amser
  • Gwell gwelededd o gontractau sydd ar gael, gan arwain at gynyddu’r nifer o archebion
  • Prosesau talu cyflymach, yn helpu i wella llif arian; a
  • Darperir gosodiad y system a hyfforddi arno am ddim a fydd yn paratoi cyflenwyr i ddelio gyda chwsmeriaid e-alluog mewn marchnadoedd ehangach.

Llywodraeth Cynulliad Cymru