Beth sydd ynddo i mi
Fel prynwr i sector cyhoeddus Cymru, mae’r manteision o ddefnyddio cyfnewidcymru yn cynnwys:
- offer a gwasanaethau ynghyd â chyngor, arweiniad, hyfforddiant a chefnogaeth oddi wrth Gwerth Cymru a'r adnodd ddesg gymorth
- cyfle i yrru arfer gorau caffael; gan helpu sector cyhoeddus Cymru i ddatblygu a rhannu strategaethau prynu sydd yn cyflawni’r gwerth gorau
- gwell effeithlonrwydd prosesu, cynhyrchiant cynyddol a gostyngiad mewn amseroedd prosesu safonol; gan alluogi mwy o amser i ganolbwyntio ar weithgareddau ‘ychwanegu gwerth’
- mwy o gyfleoedd i gydweithio gyda phrynwyr eraill ac i gyrchu bargenion cydweithredol a chytundebau fframwaith sydd yn cynnig gwerth am arian; gan leihau eich gwariant a gostwng y gost o wneud busnes gyda’ch cyflenwyr
- gwell rheolaeth dros lif gwaith a phrosesau gymeradwyo; gan ddarparu mwy o reolaeth o beth yr ydych yn gwario, lleihau’r risg o wario maverick
- gwell cydymffurfiaeth gyda Chyfarwyddebau’r UE a deddfau’r DU yn llywodraethu’r caffael sector cyhoeddus
- mwy o fynediad i wybodaeth rheoli i danategu penderfyniadau strategol a gweithredol; gan wella effeithiolrwydd eich trafodaethau cytundebol ac arbed amser ac arian
- gwell rheolaeth o gytundebau a pherfformiad cyflenwyr; gan wella perthnasau gyda chyflenwyr a chynyddu’r gystadleuaeth.
- costau gweinyddiaeth a thrafod llai drwy dreuliant gostyngol adnoddau yn cynnwys tâl post a phapur.
