Sut byddaf i’n gwybod a yw e-Ocsiwn yn addas ar gyfer fy nhendr?
Mae e-Ocsiynau’n addas yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd cyn belled ag bo nifer lluosog o gyflenwyr yn dangos diddordeb mewn cynnig. Mae ocsiynau’n addas ar gyfer contractau cynhyrchion unigol a nwyddau lluosog megis cyflenwadau bwyd a deunyddiau swyddfa a chytundebau gwasanaeth hefyd. Mae tendrau ar gyfer staff dros dro, a chontractau Glanhau a Chynnal a Chadw i gyd wedi cael eu rheoli’n llwyddiannus iawn drwy ddefnyddio e-Ocsiynau.
