Llywodraeth yn Gweithredu i Gefnogi Busnesau Cymru
16 Hyd 2008
Cyhoeddwyd: Dydd Iau 16 Hydref 2008
Bydd gwell mynediad i gontractau’r sector cyhoeddus, a systemau caffael mwy effeithlon yn rhoi hwb i economi Cymru ac yn helpu busnesau delio gyda’r amser di-fynd economaidd rhyngwladol. Dyma oedd y neges heddiw, oddi wrth Andrew Davies, Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus, wrth iddo lansio cyfnewidcymru - system masnachu ar-lein newydd - sydd yn barod wedi arbed £1 miliwn y mis i sector cyhoeddus Cymru.
