Wythnos Busnesau Bach a Chanolig Ewrop
27 Ebr 2009
Cynhelir yr Wythnos BBaCh Ewrop gyntaf rhwng 6 a 14 Mai, gyda’r nod o hyrwyddo entrepreneuriaeth ledled Ewrop a rhoi gwybodaeth i entrepreneuriaid am y cymorth sydd ar gael ar lefel leol, genedlaethol ac Ewropeaidd.
Cynhelir digwyddiadau i hysbysu a chefnogi entrepreneuriaid, a’u helpu i ddatblygu syniadau newydd.
Caiff yr Wythnos BBaCh Ewropeaidd ei chydlynu gan Gyfarwyddiaeth Gyffredinol dros Fenter a Diwydiant y Comisiwn Ewropeaidd, ond caiff y rhan fwyaf o’r digwyddiadau eu trefnu gan sefydliadau cymorth busnes ac awdurdodau lleol.
SEMINARAU CYMRU
Fel rhan o’r ymgyrch, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a Ffederasiwn Busnesau Bach yn cynnal dau seminar Brecwast Busnes am ddim.
- 6 Mai 09 – Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd
- 14 Mai 09 – Technium OpTIC, Llanelwy
Bydd y digwyddiadau’n cynnwys cyflwyniad ar Ariannu eich Busnes, ynghyd â chyfleoedd i gyfarfod ag arbenigwyr o sefydliadau cymorth busnes a rhwydweithio gyda busnesau eraill.
I gael mwy o wybodaeth a chofrestru i gael lle, ewch i wefan Cymorth Hyblyg i Fusnes Cymru neu wefan Wythnos Busnesau Bach a Chanolig Ewrop.
