Ydych chi ar fin, neu newydd ddyfarnu contract adeiladu mawr ar gyfer y sector cyhoeddus?

27 Gorff 2009

Os felly, efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn gwasanaeth newydd gan cyfnewidcymru i annog contractwyr adeiladu i ddefnyddio isgontractwyr lleol. Mae gwefan cyfleoedd isgontractwyr cyfnewidcymru yn galluogi'ch contractwr i ehangu'i gadwyn gyflenwi a hysbysebu i gyflenwyr lleol. Mae'r wefan am ddim ac yn gweithio'n debyg i wefan PrynwchiGymru.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut i wahodd eich contractwr adeiladu i ddefnyddio'r offeryn effeithiol hwn drwy fynd i wefan cyfleoedd isgontractwyr cyfnewidcymru neu drwy gysylltu â ni yn support@buy4wales.co.uk

Llywodraeth Cynulliad Cymru