SET Office Supplies
"Rydym ni yn SET wrth ein boddau o gael bod y cwmni Cymreig cyntaf i fod yn llwyddiannus yn eu cais i gyflenwi cyrff cyhoeddus ledled de Cymru â’u hanghenion papur ac offer swyddfa. Bydd contract Gwerth Cymru’n gwarantu parhad yn ein twf a bydd yn sicrhau recriwtio rhagor o bersonél yn y De, a fydd yn ei dro’n helpu i adfywio economi Cymru. Yn ogystal â hyn, bydd y cynnydd yn ein grym prynu’n ein galluogi ni i fod yn fwy cystadleuol fyth yn y farchnad fasnachol. Mae pawb ar eu hennill." Neil Griffiths, Rheolwr Gyfarwyddwr, S.E.T.
Mae SET Office Supplies wedi bod yn masnachu ers bron i ddeng mlynedd ar hugain, ac fe’u sefydlwyd yng Nghaerdydd yn 1974. Maent ar hyn o bryd yn cyflogi dros 150 o bobl gyda swyddfeydd yng Nghaerdydd, Abertawe, Hwlffordd a Bryste.
Dyfarnwyd SET yn llwyddiannus yn eu cais i ymuno â’r Fframwaith Papur a Pheiriannau Busnes a ddechreuodd ar 1 Mehefin 2008.
Defnyddiodd y broses dendro’r gyfres lawn o offer eDendro cyfnewidcymru. Cyhoeddwyd y tendr ar 8 Chwefror 2008 a chynhaliwyd e-ocsiwn ar 30 Ebrill 2008. Cynhaliwyd eOcsiwn pwysol yn hytrach nag un ar sail pris yn unig, er mwyn adlewyrchu’r sgoriau ansawdd a enillwyd yn ogystal â’r elfen fasnachol. Gwerthuswyd tendrau ar y sail o fod y mwyaf manteisiol yn economaidd ac yn seiliedig ar hollt pris/ansawdd o 60/40%.
Holltwyd y tendr yn lotiau rhanbarthol er mwyn ei wneud yn fwy hygyrch i BBaChau. Arweiniodd hyn at ddyfarnu lle i SET, cwmni Cymreig, ar y cytundeb fframwaith. Mae SET un o dri o gyflenwyr sydd ar gael ar Lot De Cymru o’r fframwaith; fe’i dyfarnwyd yn drydydd gan ddefnyddio’r gwerthuso pris ac ansawdd.
