eDalu

Cyflwyno Cerdyn Prynu Cymru

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Royal Bank of Scotland (RBS) wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu Cerdyn Prynu Cymru cyfnewidcymru. Mae’r cerdyn caffael yn ddull isel ei gost o archebu a thalu am nwyddau isel eu gwerth a’u risg.

Mae’r cerdyn ar gael am ddim i sefydliadau o unrhyw faint ac fe’i derbynnir gan amrywiaeth eang o fasnachwyr. Mae hyn yn gwneud y cerdyn yn addas i brynu unrhyw fath o nwyddau neu wasanaethau. Nid oes yn rhaid ichi gael archeb brynu na gorchymyn prynu i dalu am nwyddau na gwasanaethau gyda’r cerdyn. Yn ogystal, mae hyn yn cael gwared ar y broses o anfon anfoneb ar wahân ar gyfer pob archeb, gydag un taliad misol i’r banc.

Mae’r cerdyn o fantais i gyflenwyr hefyd gan sicrhau eu bod yn cael eu talu’n gyflym o fewn 3 i 4 diwrnod.

System Smart Data OnLine (SDOL)

System Smart Data Online (SDOL) sydd wrth wraidd llwyddiant Cerdyn Prynu Cymru o ran rheoli gwariant. System ydyw sy’n rheoli gwybodaeth ar-lein yn ddiogel a gellir addasu’r system yn rhwydd fel ei fod yn gweithio gyda’ch systemau cyllid chi ac nid oes iddo unrhyw gost ychwanegol. Mae SDOL yn rhoi mynediad i chi at ragor o ddata gan roi cyfle i chi ddadansoddi a rheoli eich gwariant gyda llai o ymdrech. Nawr, mae tasgau oedd yn arfer cymryd oriau neu hyd yn oed ddyddiau i’w cwblhau yn gallu cael eu gwneud mewn munudau.

I weld sut mae Smart Data OnLine yn gweithio, ewch i www.natwest.com/sdoldemo.

Llywodraeth Cynulliad Cymru