Manteision i Gyflenwyr

Fel cyflenwr, mae’r manteision busnes o ddefnyddio cyfnewidcymru yn cynnwys:

  • mynediad am ddim i wasanaethau gwe gyflym a hawdd i’w ddefnyddio, gyda chefnogaeth a chyngor ymarferol o dîm cysylltiadau cyflenwyr Gwerth Cymru.
  • rhybuddion e-bost pan gyhoeddir gofynion gwerth uchel ac isel sydd yn cyd-fynd â’ch diddordeb; gan eich caniatáu i ymateb i gyfleoedd busnes yn hawdd ac yn gyflym.
  • gwell welededd o’r nwyddau a’r gwasanaethau yr ydych yn cynnig; gan helpu cynyddu eich trosiant a thyfu eich busnes
  • defnydd prosesau cyffredin, tryloyw ac anchwiliadwy; sydd yn rhoi cyfle teg a chyfartal i chi ennill busnes o’r sector cyhoeddus beth bynnag eich maint neu eich lleoliad
  • cyfle i gyd-gysylltu gyda’r systemau cyllid a chefn swyddfa bresennol, os oes angen; gan helpu lleihau gweinyddiaeth, cynyddu cynhyrchiant, gwella effeithlonrwydd prosesau a lleihau costau trafodion
  • gostyngiad yn yr angen i greu a chadw dogfennau papur, yn cynnwys dyfynbrisiau syml, dogfennaeth tendro cymhleth a gwerthiannau drud a deunyddiau marchnata
  • gwell llif arian drwy brosesu archebion ac anfonebau ar-lein a derbynneb o daliadau electronig neu dderbyniad Cerdyn Prynu Cymru
  • gostyngiad yn y gost o wneud busnes gyda’ch cwsmeriaid sector cyhoeddus; a fydd yn eich helpu chi i gystadlu’n fwy effeithiol mewn marchnad sy’n newid yn gyflym, i ennill a chadw busnes newydd ac i wella proffidioldeb

Llywodraeth Cynulliad Cymru