Hanesion Llwyddiant
Hanesion Llwyddiant
Hyd yn hyn mae yna 14 o Gyflenwyr, gyda 12 o gyflenwyr yn cynnig 22 eGatalog a 2 cyflenwr yn cynnig ‘punch-out’
System ar-lein ddiogel yw cyfnewidcymru i gyhoeddi archebion brynu, cynhyrchu anfonebau a chynnal catalogau cyflenwyr, a fydd yn caniatáu i bob sefydliad sector cyhoeddus Cymru archebu a phrynu nwyddau a gwasanaethau drwy glicio botwm.
Gallai unrhyw gyflenwr gyda chysylltiad rhyngrwyd cyrchu cyfnewidcymru a manteisio o wneud busnes yn electronig. Nid oes yna dâl i’n gyflenwyr ac fe ddarperir cefnogaeth ar gyfer y defnydd parhaus y system.
Mae’r system yn dod a manteision prosesau safonedig, defnydd cynyddol o gontractau gwerth gorau, archebu heb bapur gyda llai o weinyddiaeth. Mae hyn yn elwa’r holl gyflenwyr beth bynnag eu maint, gallu technegol neu leoliad.
Mae manteision yn cynnwys:
Mae ragor o offer ar gael i’r cyflenwyr hynny sydd am integreiddio cyfnewidcymru gyda’u systemau cefn swyddfa. Mae cyfnewidcymru hefyd yn caniatáu i ddefnyddwyr i gysylltu (punch-out) i wefannau masnachol cyflenwyr.
Sefydlwyd tîm cysylltiadau cyflenwyr Gwerth Cymru i gynorthwyo prynwyr a chyflenwyr drwy fabwysiadu masnachu electronig drwy cyfnewidcymru drwy gynnig cyngor a chymorth ymarferol trwy’r gweithrediad.